Rhif y ddeiseb: P-06-1241

Teitl y ddeiseb: Llywodraeth Cymru i gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl.

Geiriad y ddeiseb: Llofnodwch y ddeiseb a gofynnwch i Lywodraeth Cymru gwrdd â chynulleidfa ehangach o ofalwyr di-dâl a gwrando ar ein straeon. Rydym am i Lywodraeth Cymru gwrdd yn rheolaidd â gofalwyr y tu allan i sefydliadau a phwyllgorau gofalwyr. Nod y cyfarfodydd hyn fyddai rhoi llais i ofalwyr, cyfle i rannu eu pryderon ac i Lywodraeth Cymru glywed straeon go iawn gofalwyr ar lawr gwlad.
Rydym yn haeddu'r hawl i’n lleisiau gael eu clywed. Mae gofalwyr di-dâl wedi cael eu hanwybyddu’n rhy hir a hyd yn oed yn fwy felly yn ystod y pandemig. Er enghraifft, dywedodd Llywodraeth Cymru na allai ddod o hyd i unrhyw enghreifftiau o wasanaethau'n cael eu hatal yn ystod y pandemig, ond mae gofalwyr gwirioneddol ar lawr gwlad yn gwybod bod gwasanaethau wedi'u hatal ac nad ydynt wedi'u hailddechrau o hyd.
Rydym yn gofyn i Weinidogion perthnasol gwrdd â ni fel y gallwn helpu i lunio polisïau yn y dyfodol i sicrhau dyfodol gwell i ofalwyr di-dâl sy'n byw yng Nghymru.

 

 


1.        Cefndir

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn cyfeirio at ofalwr di-dâl fel unrhyw un sy’n “darparu gofal di-dâl i rywun sydd yn glaf, yn hŷn, gydag anabledd, gyda phryderon iechyd meddwl neu gyda phroblemau caethiwed”. Gall y math o ofal gynnwys cymorth corfforol, emosiynol ac ariannol, coginio, glanhau ac ymyrraeth feddygol o bryd i'w gilydd neu bob dydd.

Yn ôl Gofalwyr Cymru, cododd nifer y gofalwyr di-dâl o un o bob chwech i dros un rhan o bump o boblogaeth Cymru yn ystod y pandemig, sy’n 683,000 amcangyfrifedig o ofalwyr.

2.     Camau gweithredu y trydydd sector

Mae sefydliadau yn y trydydd sector sy’n cefnogi ac yn cynrychioli gofalwyr yng Nghymru, gan gynnwys, fel y nodir uchod, Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru.

Un prosiect perthnasol sy'n cael ei redeg ar y cyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru yw Ymwybyddiaeth o Gofalwyr, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Gofalwyr Cymru yn cydweithio â gofalwyr di-dâl, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol i “roi mwy o hawl i ofalwyr di-dâl ymwneud â phenderfyniadau a gwasanaethau ar gyfer y bobl y maent yn gofalu amdanynt a hwy eu hunain”.

Bu i Gynghrair Gofalwyr Cymru (cynghrair o elusennau sy’n ceisio cynnal hawliau gofalwyr di-dâl a hyrwyddo llais gofalwyr ledled Cymru) gyhoeddi maniffesto ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2021, a oedd yn nodi chwe blaenoriaeth ar gyfer gofalwyr. Mae un o'r blaenoriaethau'n ymwneud â gweithio mewn partneriaeth â gofalwyr ac mae'n nodi bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gofalwyr yn cael eu grymuso i gydgynhyrchu polisïau cenedlaethol a gwasanaethau lleol/rhanbarthol mewn modd ystyrlon. Ceir rhagor o fanylion am y flaenoriaeth hon yn y maniffesto.

3.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl ym mis Mawrth 2021, sy’n nodi’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella’r gydnabyddiaeth a’r cymorth i ofalwyr di-dâl. Yna cyhoeddwyd Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl: cynllun cyflawni 2021 ym mis Tachwedd 2021.

Mewn gohebiaeth i’r Pwyllgor ar 5 Ionawr 2022, mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi ei bod yn croesawu clywed safbwyntiau gofalwyr di-dâl a’i bod yn bwriadu cwrdd â hwy lle bynnag y bo hynny’n bosibl. Rhoddir enghraifft o gyfarfodydd a gynhaliwyd gyda gofalwyr di-dâl ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr ar 25 Tachwedd 2021.

Mewn perthynas ag ymgysylltiad mwy ffurfiol â gofalwyr, mae’r Dirprwy Weinidog yn cyfeirio at y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Ofalwyr, sydd wedi darparu gwybodaeth a chyngor i Weinidogion. Mae'r grŵp yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn gydag aelodau sy'n cynnwys cyrff statudol megis awdurdodau lleol a byrddau iechyd, y Comisiynwyr annibynnol, Gofal Cymdeithasol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, sefydliadau gofalwyr cenedlaethol, swyddogion a sefydliadau pobl ifanc.

Cynorthwyodd y Grŵp Cynghori Gweinidogol Lywodraeth Cymru i ddatblygu'r Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a'r Cynllun Cyflawni.

Mae’r Dirprwy Weinidog hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod Llywodraeth Cymru, ers 2019, wedi ariannu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i gefnogi Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr sy’n galluogi Llywodraeth Cymru i ymgysylltu’n uniongyrchol â gofalwyr di-dâl a gweithwyr proffesiynol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Gweithiodd aelodau'r grŵp gydag aelodau a swyddogion y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar y Strategaeth ar gyfer Gofalwyr Di-dâl a'r Cynllun Cyflawni. Mae un grŵp penodol yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyd-gynhyrchu Siarter Gofalwyr newydd y bwriedir ei lansio yn gynnar yn 2022.

Mae’r Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr yn cynnal adolygiad o’i gylch gwaith, ac mae’r Dirprwy Weinidog yn nodi y bydd hyn yn ei alluogi i gefnogi ymgysylltiad ehangach â gofalwyr wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â’r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflawni. Bydd hyn yn cynnwys ychwanegu gofalwyr ifanc at y grŵp. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn gynnar yn 2022 ar y fformat newydd ar gyfer y Grŵp Ymgysylltu â Gofalwyr ar ei newydd wedd.

Mae cyllid wedi'i ddarparu fel y gall Gofalwyr Cymru gynnal Uwchgynhadledd Gofalwyr 5 diwrnod ym mis Chwefror 2022, a fydd yn cynnwys cyfres o sesiynau trafod i ofalwyr, gan gloi gyda sesiwn holi ac ateb panel arbenigol y bydd y Dirprwy Weinidog yn ei mynychu ac yn ei harsylwi.

Mewn perthynas â’r deisebydd, dywed y Dirprwy Weinidog:

Hoffwn ei sicrhau ef, a’r pwyllgor, bod barn pob gofalwr yr un mor werthfawr a phwysig â’i gilydd, pa un a ydynt yn rhan o rwydwaith y llywodraeth neu rwydwaith ffurfiol arall neu beidio.

4.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd ei adroddiad ar ei ymchwiliad i effaith Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â gofalwyr o bob oedran yng Nghymru.

Hefyd, cyhoeddodd Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Bumed Senedd adroddiad i effaith y pandemig COVID-19 ar y sector gofal cymdeithasol a gofalwyr di-dâl ym mis Mawrth 2021.  

Cynhaliodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Chweched Senedd ymgynghoriad ar flaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2021. Roedd yn gofyn am safbwyntiau ar flaenoriaethau cychwynnol a nodwyd gan y Pwyllgor, a blaenoriaethau allweddol eraill y dylai’r Pwyllgor eu hystyried mewn perthynas â gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofalwyr, ac adfer ar ôl COVID. Daeth 139 o ymatebion i law.

Cydnabuwyd y pwysau cynyddol ar ofalwyr di-dâl mewn nifer fawr o ymatebion. Tynnwyd sylw at amrywiaeth o faterion, gan gynnwys yr angen am gymorth emosiynol ac iechyd meddwl, diffyg seibiannau, cymorth cyfrwng Cymraeg i ofalwyr, a hygyrchedd gwybodaeth a chyngor ar-lein, yn enwedig i bobl hŷn.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.